Salm 114 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXIV

In exitu Israel.

Y mae mynediad Israel o gaethiwed yn dwyn ar gof i ni faint yw trugaredd Duw iw blant, a maint ein anniolchgarwch ninnau iddo ef.

1. Pan ddaeth Israel o’r Aipht faith:A thy Jaco o estron iaith,

2. Juda oedd ei sancteiddrwydd ef,Israel oedd benaethiaeth Ior.

3. Gwelodd hyn a chiliodd y mor,a throes iw hol Iorddonen gref.

4. Neidiai’r mynyddoedd megis hyrdd:A’r bryniau mal wyn llament ffyrdd,cawsant wastad megis llawer dol.

5. Ciliaist (o for) dywaid pa ham?Tithau Iorddonen lathraidd lam,p’am y dadredaist dithau d’ol?

6. Chwychwi fynyddoedd p’am y ffoech,Fel hyrddod? a ph’am nad arhoech?a chwithau fryniau fal wyn man?

7. Am mai rhaid ofni Duw Jaco,