Salm 56 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM LVI

Miserere mei.

Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.

1. Duw dy nawdd ym rhag marwol ddynhwn yn ei wyn a’m llyngcai:Sef ymryfelu a mi bydd,a beunydd i’m gorthrymmai.

2. Llyncent fi beunydd o dra châs,(dy râs o Dduw goruchaf)Rhai beilch rhy dynion maent yn lluyn poeth ryfelu arnaf.

3. Y dydd y bai mwyaf fy ofnrhown ynot ddofn ymddiried.

4. Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,doi yn ddidlawd i’m gwared.

5. Yn fy ymadrodd i fy hun,y ceisiant lun i’m maglu:Ac ar bob meddwl a phob troy maent yn ceisio ’nrygu.

6. Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,a disgwyl fy holl gerdded,Drwy ymfwriadu i mi loes,a dwyn i’m heinioes niwed.

7. A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:Disgyn y bobloedd yn dy lid,Duw felly bid eu diwedd.

8. Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,fy nagrau dod i’th gostrel:Ond yw pob peth i’th lyfrau dia wneuthym i yn ddirgel?

9. Y dydd y llefwyf, gwn yn wirdychwelir fy ngelynion:Am fod drosof fy Nuw â’i law,mi a wna y daw yn union.

10. Gorfoleddaf yngair fy Nuw,gair f’Arglwydd byw a folaf,

11. Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,beth a wnel gwr nid ofnaf.

12. O Dduw mae arnaf fi yn ddledllawer adduned ffyddlon,Ac mi a’i talaf hwynt yn rhyddi ti fy Arglwydd cyfion.

13. Am yt ludd dwyn fy oes a’m gwaed,a llestair i’m traed lithro,Fel y rhodiwy’ fi gar dy fronyngolau’r bywion etto.