Salm 130 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXXX

De profundis.

Gweddi am drugaredd a maddeuant o’n pechodau, ac o’r diwedd am gael ein gwaredu o bob drwg.

1. O’r dyfnder gelwais arnat Ion,

2. O Arglwydd tirion gostwngDy glust, ystyria y llais mau,clyw fy ngweddiau teilwng.

3. Duw, pwy a saif yn d’wyneb di,os creffi ar anwiredd?

4. Ond fel i’th ofner di yn iawn,yr wyd yn llawn trugaredd.

5. Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,disgwyliodd f’enaid arno.Rhois fy holl obaith yn ei air,

6. f’enaid a gair yn effro.Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,fwy nâ gwiliedydd difri:A edrych blygain bob pen awr,a welo’r wawr yn codi.

7. Un wedd disgwylied Israel,yn ddirgel am yr Arglwydd,Cans mae nawdd gyda’r Arglwydd nef,mae yntho ef rywiogrwydd.Ei drugareddau ânt ar lled,fe rydd ymward ini.

8. Fe weryd Israel: fal hyn,fo’i tyn o’i holl ddrygioni.