Salm 129 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXXIX

Sape expugnauerunt.

Cynghori y mae i’r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a’i gweryd hi, ac a fathr ei chaseion.

1. Llawer gwaith cefais gystudd mawr,Israel yn awr dyweded,O’m hieuenctyd hyd yr awr hon,fe wyr fy mron eu trymed.

2. A llawer gwaith y cefais lid,o’m gwan ieuengctid allan:A blin gystudd ar lawer tro,ac etto ni’m gorfuan’.

3. Yr arddwyr arddent y cefn mau,drwy rhwygo cwysau hirion:

4. Y cyfion Ner torrodd yn frau,bleth-didau’r annuwiolion.

5. Pa rai bynnag a roesant gâsar degwch dinas Seion,Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,y rhai annuwiol creulon.

6. Byddant fel y glâs wellt a faiar bennau tai yn tyfu,Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,yn gwywo, ac yn methu.

7. Ni leinw’r medelwr ei law,ni chair o honow ronyn:I’r casclwyr nis tal ddim mo’i droi,na’i drin, na’i roi mewn rhwymyn.

8. Fel na bai byth gwiw gan y rhaiar a dramwyai heibio,Ddwedyd unwaith, Duw a ro llwydd,neu’r Arglwydd a’ch bendithio.