Salm 31 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM XXXI

In te Domine Speraui.

Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a’i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i’r sawl a’i hofnant. Cyngor i’r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaredydd.

1. Mi a ’mddiriedais ynod Ner,fel na’m gwaradwydder bythoedd:Duw o’th gyfiownder gwared fi,a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

2. Gogwydd dy glust attaf ar frys,o’th nefol lys i wared,

3. A bydd ym’ yn graig gadarn siwr,yn dŷ a thwr i’m gwared.

4. Sef fy nghraig wyd, a’m castell cryf,wyf finnau hyf o’th fowredd.Er mwyn dy enw tywys fi,ac arwain i drugaredd.

5. A thynn fy fi o’r rhwyd i’r lann,a roesan er fy maglu:Cans fy holl nerth sydd ynot ti,da gelli fy ngwaredu.

6. Dodaf fy yspryd yn dy law,ac âf gar llaw i orwedd,Da y gwaredaist fi yn fyw:(o Arglwydd Dduw’r gwirionedd)

7. Llwyr y caseis y neb a fâg,iw galon orwag aflwydd,Ac mi a osodais yn llwyr faithfy ngobaith yn yr Arglwydd.

8. Mi a ’mhyfrydaf ynot ti,canfuost fi mewn amser,Ac adnabuost, wrth fy rhaid,fy enaid mewn cyfyngder.

9. Llawen fyddaf finnau am hyn,i’m gelyn ni’m gwarcheaist:Eithr fy nrhaed i yn eang ryddda beunydd y sefydlaist.

10. O dangos dy drugaredd Dduw,cans cyfyng ydyw arnaf,Fy llygaid, f’enaid, a’m bol syddyn dioddef cystydd gwaelaf.

11. Fy mywyd ym’ gwir ofid oedd,fy holl flynyddoedd, blinion,

12. Fy nerth a ballodd o’m drwg cynt,a’m esgyrn ydynt bydron.

13. A gwatwor im’ gelynion wyf,fy nghydblwyf a’m gwatworent:Fy holl gym’dogion, a phob dyn,gan ddychryn a’m gochelent.

14. Fe a’m gollyngwyd ’i dros gof,fal marw a fo esgeulus:A hawdd yw hepgor y llestr hwn,o byddi hwn drwgflasus.

15. Cans clywais ogan llawer dyno’m dautu, dychryn oerloes:Hwy a ’mgynghorent a’r bob twyn,bwriadent ddwyn fy einioes.

16. Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)y dwedais fy Nuw ydwyd,Y mae f’amseroedd a’r dy law,nid oes na braw nac arswyd.

17. Dyred a gwared fi dy wâs,oddiwrth fy nghâs a’m herlid.

18. A dangos d’wyneb ym’ oth râd,rhag brâd y rhai sy’m hymlid.

19. O Arglwydd, na wradwydder fia rois fy ngweddi arnad:Ond i’r annuwiol gwarth a wedd,yn fud i’r bedd o lygriad.

20. Cae gelwyddog wefusau y rhai’ny sydd yn darstain crasder,O ddiystyrwch, a thor tynn,yn erbyn y cyfiawnder.

21. O mor fawr yw dy râd di-drai,a roist i’r rhai a’th ofnant!Cai o flaen meibion dynion glod,ac ynod ymddiriedant.

22. Oddiwrth sythfeilchion (o’th flaen di)y cuddi hwynt yn ddirgel:Cuddi yn dda i’r babell daurhag senn tafodau uchel.

23. Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:dangosawdd y’m ei gariad:A gwnaeth ryfeddod dros ei was,mewn cadarn ddinas gaead.

24. Ofnais i gynt o’m gobaith drwgfy nrhoi o’th olwg allan:

25. Eithyr pan lefais arnat tiy clywaist fi yn fuan.

26. O cerwch Dduw ei holl sainct ef,da y clyw lef ffyddloniaid:Ac ef a dâl yn helaeth iawn,i’r beilch anghyfiawn tanbaid.

27. Cymerwch gysur yn Nuw Ion,ef a rydd galon ynoch:Ac os gobeithiwch ynddo ef,ei law yn gref bydd drosoch.