Salm 7 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM VII

Domine Deus meus.

Erfyn ar Dduw ei gadw rhag cam gyhuddiad, a’i gydwybod yn lân.

1. O Achub fi fy Nuw, fy Ner,cans mae fy hyder ynod:Rhag fy erlidwyr gwared fi,cans mae o’r rheini ormod.

2. Rhag llarpio f’enaid fel y llew,heb un dyn glew a’m gweryd:A’m rhwygo i yn ddrylliau mân,fal dyna amcan gwaedlyd.

3. O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,os drwg y sy’n fy nwylaw:

4. Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,pe bawn wrthwyneb iddaw:

5. I erlid f’oes y gelyn doed,dalied, a rhoed fi’n isaf,A sathred f’urddas yn y llwch,drwy’r diystyrwch eithaf.

6. Cyfod o Dduw, cyfod i’th ddig,a gostwng big pob gelyn:A deffro drosof yn y farn,sef cadarn yw d’orchymyn.

7. Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,a ddaw o’th ddeutu attad:Duw dychwel i’th farn er eu mwyn,a gwrando’n cwyn yn wastad.

8. Duw dyro i’r bobl y farn dau,a barn di finnau Arglwydd:Ac fel yr haeddais dod farn iawn,yn ol fy llawn berffeithrwydd.

9. Derfid anwiredd y rhai drwg,gwna’n amlwg ffordd y cyfion:Cans union wyd, a chraff, Duw cu,yn chwilio deutu’r galon.

10. Ac am fod Duw yn canfod hyn,Duw yw f’amddiffyn innau:Duw sydd iachawdur i bob rhai,sydd lân ddifai’i calonnau.

11. Felly mae Duw byth ar yr iawn,a Duw yw’r cyfiawn farnydd:Wrth yr annuwiol ar bob tromae Duw yn digio beunydd.

12. Ac oni thry’r annuwiol câs,fo lifa’i loywlas gleddau:Ar ynnyl y mae bwa’r Ion,a’i barod lymion saethau.

13. Sef arfau angau at y nod,y maent yn barod ddigon:Ac ni saetha ef ergyd byrrat yr erlidwyr poethion.

14. Wele hanes y gelyn drwg,efe a ymddwg ar draha:O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,ar gelwydd yr esgora.

15. Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,o fwriad mawr i’r truan:Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,i’r dyfn i’w glawdd ei hunan.

16. Ei holl enwiredd ar ei ben,o uchder nen a ddisgyn:A Duw a ddymchwyl yr un wedd,ei gamwedd ar ei goryn.

17. Im harglwydd Duw rhof finnau glod,câf ganfod ei gyfiownder.A chanmolaf ei enw yn rhwydd,yr Arglwydd o’r uchelder.