Salm 39 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM XXXIX

Dixi cuftodiam.

Dafydd heb allu tewi gan ofid, yn gweddio, ac yn dangos meddwl blin. Ei ymdrech yn erbyn marwolaeth ac anobaith.

1. Addewais gadw ’ngenau’n gu,rhag pechu yn fy ngeiriau,

2. Y dyn annuwiol lle y bobwriedais ffrwyno ’ngenau.

3. Tewais, tewais fel y dyn mud,rhag dwedud peth daionus,Pan y cyffroais o hir ddal,ymattal oedd ofidus.

4. Yn fy nghalon y cododd gwres:a’m mynwes o’m myfyrdod,Fel y tân ynynnu a wnaeth,a rhydd yr aeth fy’ nhafod.

5. O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)pa amser y diweddafRifedi ’nyddiau: a pha hydo fewn y byd y byddaf.

6. Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,i’m heinioes daw byr ddiwedd.Diau yn d’ olwg di (o Dduw)fod pob dyn byw yn wagedd.

7. Sef mewn cysgod y rhodia gwr,dan gasglu pentwr ofer,Odid a wyr wrth dyrru dapwy a’i mwynha mewn amser.

8. Beth bellach a obeithiaf fi,Duw rhois i ti fy nghalon.

9. Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,nâd fi’n wradwydd i ffolion.

10. Yn fudan gwael yr aethym i,a hyn tydi a’i parodd:

11. O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,sef pwys dy ddwrn a’m briwodd.

12. Pan gosbech di am bechod wrfo wywa’n siwr ei fowredd,Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hynnad yw pob dyn ond gwagedd.

13. Clyw fy ngweddi o Dduw o’r nef,a’m llef: a gwyl fy nagrauDy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)ac felly ’roedd fy nheidiau.

14. O paid a mi gad ym gryfhau,cyn darfod dyddiau ’mywyd.

15. O gwna â mi sy’ mron fy medddrugaredd a syberwyd.