Salm 103 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CIII

Benedic anima.

Y mae’n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif drugareddau, a’i ymwared i’r ffydloniaid.

1. Fy enaid mawl sanct Duw yr Ion,a chwbl o’m eigion ynof.

2. Fy enaid n’âd fawl f’Arglwydd nef,na’i ddoniau ef yn angof.

3. Yr hwn sy’n maddau dy holl ddrwg,yr hwn a’th ddwg o’th lesgedd:

4. Yr hwn a weryd d’oes yn llon,drwy goron a’i drugaredd.

5. Hwn a ddiwalla d’enau diâ’i lawn ddaioni pybyr:Drwy adnewyddu yt’ dy nerth,mor brydferth a’r hen eryr.

6. Yr Ion cyfiawnder, barn a wnaii’r rhai sydd orthrymedig.

7. Dangos a wnaeth ei brif-ffyrdd heni Foesen yn nodedig:Ac i Israel ei holl ddawn.

8. Duw llawn yw o drugaredd:Hwyr yw ei lid, parod ei râd,fal dyna gariad rhyfedd.

9. Nid ymryson ef â ni byth,nid beunydd chwyth digofaint,

10. Nid yn ol ein drygau y gwnaiâ ni: ni’n cosbai cymmaint.

11. Cyhyd ac yw’r ffurfafen fawroddi ar y llawr o uchder,Cymaint i’r rhai a’i hofnant ef,sydd nawdd Duw nef bob amser.

12. Os pell yw’r dwyrain olau hinoddiwrth orllewin fachlud:Cyn belled ein holl bechod llym,oddiwrthym ef a’i symmud.

13. Ac fel y bydd nawdd,serch, a chwanttâd da iw blant naturiol,Felly cawn serch ein tâd o’r nef,os ofnwn ef yn dduwiol.

14. Efe a’n hedwyn ni yn llwyr,fe wyr mai llwch yw’n defnydd:

15. Oes dyn fel gwellt-glas sy’n teghau,neu ddail, neu flodau maesydd.

16. Yr hwn, cyn gynted ac y dely gwynt â’i awel drosodd:A chwythir ymaith felly o’i le,na wyddis ple y tyfodd.

17. Ond graslawn drugaredd a fydd,yn lân dragywydd feddiant,O oes i oes heb drangc, heb drai,gan Dduw i’r rhai ai’ hofnant.

18. A’i gyfiownder i blant y planta gadwant ei gyfammod:O chofiant ei orchmynion ef,mae tyrnas nef yn barod.

19. Yno y mae ei orseddfa ef,sef yn y nef tragwyddol:A llywio y mae ef bob peth,drwy ei frenhinieth nefol.

20. Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,angylion, a’i holl gedyrn.Ei lân orchymmyn ef a wnewch,a’i lais gwrandewch yn drachwyrn.

21. Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner,ei luoedd tyner tirion.Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir,chwychwi ei gywir weision.

22. Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef,ei hollwaith ef sy hylwydd:Ymmhob mân oll o’i drefn a’i hawl,O f’enaid mawl di’r Arglwydd.