Salm 102 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CII

Domine exaudi.

Gweddi y ffyddloniaid yn amser caethiwed Babel.

1. O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,a doed fy nghri hyd attad:

2. Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,clyw, clyw, pan alwyf arnad.

3. Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.

4. Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.

5. Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.

6. Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.

7. Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.

8. Fy ngelynion â thafod rhydd,hwy beunydd a’m difenwant:A than ynfydu yn ei gwyn,i’m herbyn y tyngasant.

9. Fel llwch a lludw yn fy mhla,fu’r bara a fwyteais:Yr un wedd yn y ddiod faufy nagrau a gymysgais.

10. A hyn fu o’th ddigofaint di,am yt’ fy nghodi unwaith:Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,i’r llawr i’m teflaist eilwaith.

11. Fy nyddiau troesant ar y rhod,ac fel y cysgod ciliant:A minnau a wywais achos hyn,fel y glaswelltyn methiant.

12. Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,a barhei yn dragwyddol,O oes i oes dy enw a aethmewn coffadwriaeth grasol.

13. O cyfod bellach trugarhâ,o Dduw bydd dda wrth Sion:Mae’n fadws wrthi drugarhau,fel dyma’r nodau’n union:

14. Cans hoff iawn gan dy weision di,ei meini a’i magwyrau,Maent yn tosturio wrth ei llwch,a’i thristwch, a’i thrallodau.

15. Yno yr holl genhedloedd bywyr Arglwydd Dduw a ofnant:A’r holl frenhionedd trwy y byd,a ront yt gyd-ogoniant.

16. Pan adeileder Sion wych,a hon yn ddrych i’r gwledydd:Pan weler gwaith yr Arglwydd ne’,y molir e’n dragywydd.

17. Edrychodd hwn ar weddi’r gwael,rhoes iddynt gael ei harchau:

18. Scrifennir hyn: a’r oes yn ola gaiff ei ganmol yntau.

19. Cans Duw edrychodd o’r nef fry,ar ei gyssegrdy, Sion:

20. Clybu ei griddfan, er rhyddhauplant angau ’i garcharorion.

21. Fel y cydleisient hwy ar gân,yn Seion lân, ei foliant:Ac ynghaer-Salem yr un wedd,ei fowredd a’i ogoniant.

22. Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,yn unfryd iw foliannu:A’r holl dyrnasoedd dont yngwyddyr Arglwydd, iw wasnaethu.

23. Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth,byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau:A mi’n disgwyl rhyddhâd ar gais,

24. yno y dywedais innau.O Dduw na thorr fy oes yn frau,ynghanol dyddiau f’oedran:Dy flynyddoedd di sydd erioed,o oed i oed y byddan.

25. Di yn y dechrau dodaist sail,odd’ isod adail daiar:A chwmpas wybren uwch ein llaw,yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.

26. Darfyddant hwy, parhei di byth,treuliant fel llyth trwssiadau.

27. Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant,felly newidiant hwythau:Tithau Arglwydd, yr un wyt ti,a’th flwyddau ni ddarfyddant.

28. Holl blant dy weision gar dy fron,a’i hwyrion a bresswyliant.