Salm 100 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM C

Jubilate Deo.

Mae yn cynghori pob dyn i wasanaethu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnulleidfa i’w foli.

1. I’r Arglwydd cenwch lafar glod,a gwnewch ufydd-dod llawen fryd,

2. Dowch o flaen Duw a pheraidd don,trigolion y ddaear i gyd.

3. Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw,a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,Nid ni’n hunain, ei bobl ym ni,a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.

4. O ewch i’w byrth a diolch brau,yn ei gynteddau molwch ef,Bendithiwch enw Duw hynod,rhowch iddo glod drwy lafar lef.

5. Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,da ei drugaredd a di lyth:A’i wirionedd ini a roes,o oes, i oes, a bery byth.