Salm 117 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXVII

Laudate Dominum.

Cynghori y Cenhedloedd i foli Duw o ran bod yr addewid mor helaeth iddynt hwy, ac i’r Iddewon.

1. O cenwch fawl i’r Arglwydd nef,moliennwch ef genhedloedd,Molwch ei Enw ef drwy’r byd,chwithau i gyd y bobloedd.

2. Am ei fod inni yn dda iawn,yr Arglwydd llawn trugaredd:A’i air fe fydd yn parhau byth,sef ei ddilyth wirionedd.