Salm 142 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXLII

Voce mae.

Dafydd, er nag ofn na dig, yn arbed Saul, ac yn gweddio ar Dduw ei geidwad.

1. Rhois weddi ar yr Arglwydd nef,yn llym fy llef ymbiliais:

2. A’m holl fyfyrdod gar ei fron,o’m calon y tywelltais.

3. Ond pan fynegais it fy nghur,a’m dolur o’m meddyliau,Da gwyddit ti bob ffordd a’r man,y rhoesan i mi faglau.

4. O’r tu deau nid oedd ym’ neb,trown f’wyneb, a’m hadwaenai,Pa nawdd, na neb, o du’n y byd,fy mywyd a ’mgeleddai.

5. Arno llefais, wrthyt dwedais,Duw, di a ydwyd union:Fy nghwbl obaith wyt yn wir,a’m rhan yn nhir y bywion.

6. O ystyr Arglwydd, faint fy nghri,wyf mewn trueni digllon:Rhag fy erlidwyr gwared fi,mae rhei’ni yn rhy gryfion.

7. O garchar caeth fy enaid tynn,dy enw am hyn a folaf:Pan weler dy fod ar fy rhan,y cyfion twysgan attaf.