Salm 54 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM LIV

Deus in nomine.

Dafydd yn galw ar Dduw i ddinistrio ei elynion, drwy addo diolchgarwch.

1. Duw yn d’enw cadw fi’n dda,a barna i’th gadernid.

2. Duw clyw fy ngweddi, gwrando ’nghwyna’m llef yn achwyn wrthyd.

3. Cans codi’m herbyn i yn chwyrnmae cedyrn ac estroniaid.Ac heb osod Duw gar eu bron,mor greulon ynt i’m henaid.

4. Wele Duw fydd ym’ cymorth rhagpwy bynnag a gais dial:Duw sydd gyda’r rhai sy’ ar blaidfy enaid, er ei gynnal.

5. Efe a dâl o’r achos honi’m gelynion eu drygedd,O torr di ymaith hwynt (fy Ion)yn eigion dy wirionedd.

6. Rhof aberth yt o wllys da,a chlod-fora’ dy enwFy Arlwydd cymmwys ydyw hyn,sef ti wyd yn fy nghadw,

7. Gwir yw, Duw a’m gwaredodd io’m cyni a’m trallodion:A’m llygad a gafodd ei fryd,a’i wynfyd o’m caseion.