Salm 60 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM LX

Deus repulisti.

Dafydd pan oedd yn frenin ar Juda, yn dangos drwy arwyddion mai Duw a’i dewisasai, ac yn dangos hynny i’r bobl: dymuno ar Dduw orphen yr hyn a ddechreuasei.

1. O Dduw, dydi a’n gwrthodaist,ar wasgar gyraist ymaith,O sorraist wrthym yn ddi gel,tro attom, dychwel eilwaith.

2. Dychrynaist di y ddaiar gron,a holltaist hon yn ddrylliau,Cans o’th lid ti siglo y mae,iachâ, a chae ei briwiau.

3. Dangosaist i’th elynion dio bwys caledi ormod:A’r ddiod a roist yn eu min,oedd megis gwin madrondod.

4. Rhoddaist faner, er hyn i gyd,i bawb o’r byd a’th ofnant,I faneru drwy dy air gwir,dros lu y tir lle y trigant:

5. Fel y gwareder drwy lân hwyl,bob rhai o’th anwyl ddynion.O achub hwynt â’th law ddeau,a gwrando finnau’n ffyddlon.

6. Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,llawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.

7. Myfi biau y ddwy dref tad,sef Eilead, a Manasse,Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,a Juda wen f’anneddle.

8. Ym Moab ymolchi a wnaf,dros Edom taflaf f’esgid:A chwardded Palestina gaeth,a’i chwerthin aeth yn rhybrid.

9. Duw, pwy a’m dwy i’r ddinas gref?pwy a’m dwg i dref Edom?

10. Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,o Dduw a’mleddi drosom?Ynot yn unig mae’n coel ni,perhon i ti a’n gwrthod,Er nad aethost o flaen ein llu,bydd ar ein tu mewn trallod.

11. O unig Dduw, bydd di’ ni’n borth,ofer yw cymorth undyn.

12. Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawrfo sathra’i lawr y gelyn.