Salm 26 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM XXVI

Iudica me Domine.

Y mae Dafydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug yw ei weddi, mae fe yn crio yn erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd, sef ei elynion.

1. Barn fi (o Dduw) a chlyw fy llais,mi a rodiais mewn perffeithrwydd:Ac ni lithraf, am ym’ roi ’mhwys,yn llownddwys ar yr Arglwydd.

2. Prawf di fy muchedd Arglwydd da,a hola dull fy mywyd:A manwl chwilia’r galon fau:A phrawf f’arennau hefyd.

3. O flaen fy llygaid, wyf ar ledyn gweled dy drugaredd:Gwnaeth da ar hynny ar bob tro,y’m rodio i’th wirionedd.

4. Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,neu goegwyr yn llawn malais:

5. Câs gennif bob annuwiol rith,ac yn eu plith ni ’steddais.

6. Mi olchaf fy nwy law yn lân,cans felly byddan, f’Arglwydd,Ac a dueddaf tua’th gor,ac allor dy sancteiddrwydd.

7. Y modd hyn teilwng yw i mi,luosogi dy foliant:Sef, addas i mi fod yn lân,i ddatcan dy ogoniant.

8. Arglwydd ceraist drigfan dy dy,lle’r ery’ dy anrhydedd:

9. N’âd f’enaid i a’m hoes ynghydâ’r gwaedlyd llawn enwiredd.

10. Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,y maent yn llawn maleisiau.A dehaulaw yr holl rai hyn,sy’n arfer derbyn gwobrau.

11. Minnau’n ddiniwed, (felly gwedd)ac mewn gwirionedd rhodiaf:Gwared fi drwy dy ymgeledd,cymer drugaredd arnaf.

12. Fe saif fy nrhoed i ar yr iawn,ni syfl o’r uniawn droedfedd:Mi a’th glodforaf: Arglwydd da,lle bytho mwya’r orsedd.