Salm 148 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXLVIII

Laudate Dominum

Mae efe yn annog pob creadur, o bob lle i foli Duw, yn enwedig am ei ddaioni i Israel.

1. O molwch yr Arglwydd o’r nef,rhowch lef i’r uchel-leoedd.

2. Molwch hwn holl angylion nef,molwch ef ei holl luoedd.

3. Yr haul, a’r lleuad, a’r holl ser,y gloywder, a’r goleuni,

4. Nef y nefoedd, a’r ffurfafen,a’r deifr uwch ben y rhei’ni.

5. Moliannant enw’r Arglwydd nef,hwynt â’i air ef a wnaethbwyd.Dwedodd y gair, a hwy fal hynar ei orchymmyn crewyd.

6. Rhoes reol iddynt i barhau,fel deddfau byth iw dilyn:Rhoes bob peth yn ei le’n ddi os,nad elo dros ei derfyn.

7. Molwch yr Arglwydd o’r ddayar,chwychwi ystrwgar ddreigiau,

8. Y tân, a’r cenllysg, eira, a tharth,a’r gwynt o bob parth yntau,

9. Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydda’r tirion gedrwydd brigog,

10. An’feiliaid, ac ymlusgiaid maes,ac adar llaes asgellog.

11. Brenhinoedd dair, barnwyr byd,swyddwyr ynghyd â’r bobloedd,

12. Gwyr ieuainc, gwyryfon, gwyr hen,pob bachgen ym mhob oesoedd.

13. Molant ei enw ef ynghyd,uchel a hyfryd ydoedd,Ei enw ef sydd uchel ary ddaiar oll, a’r nefoedd.

14. Cans corn ei bobl a dderchafawdd,yn fawl a nawdd i’r eiddo,I Israel ei etholedig,a drig yn agos atto.