Salm 125 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXXV

Qui confidunt.

Mae fe yn dangos siccr obaith y ffyddloniaid yn eu blinderau, gan ddymuno iddynt lwyddiant: ac i’r rhai anwir ddistryw.

1. Sawl a’mddiriedant yn Nuw Ion,byddant fel Seion fynydd,Yr hwn ni syfl: a’i sylwedd frya bery yn dragywydd.

2. Fel y saif sail Caersalem fry,a’i chylchu mae mynyddoedd:Felly yr Arglwydd yn gaer fydd,dragywydd cylch ei bobloedd.

3. Er na orphwys rhag cledd hiryr enwir ar gyfiowniaid,Rhag i’r rhai cyfiawn ystyn llawi deimlaw campau diriaid.

4. O Arglwydd Dduw yn brysur gwnni bob dyn da ddaioni:Sef union attad ti yn glauy bydd calonnau’ rhei’ni.

5. Onid y dryg-ddyn Duw a’i gyrrgydâ gweithwyr anwiredd:Mewn drwg ymdroes, felly ymdroed,ar Israel boed tangnhefedd.