Salm 133 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXXXIII

Ecce quam.

Clod cariad brawdol, a’i gyffelybu i’r olew yn y 30. pen. o Exodus.

1. Wele fod brodyr yn byw ’nghyd,mor dda, mor hyfryd ydoedd:

2. Tebyg i olew o fawr werth,mor brydferth ar y gwisgoedd.Fel pe discynnai draw o’r nen,rhyd barf a phen offeiriad.Sef barf Aron a’i wisg i gyd,yn hyfryd ei arogliad.

3. Fel pe discynnai gwlith Hermonyn do dros Seion fynydd,Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlithei fendith, yn dragywydd.