Y Salmau 97 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.

2. Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.

3. Tân a â allan o'i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.

4. Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd.

5. Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.

6. Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a'r holl bobl a welant ei ogoniant.

7. Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau.

8. Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd.

9. Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y'th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.

10. Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a'u gwared o law y rhai annuwiol.

11. Heuwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon.

12. Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.