Y Salmau 123 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Caniad y graddau.

1. Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.

2. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

3. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.

4. Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.