Y Salmau 147 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i'n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.

2. Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.

3. Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4. Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5. Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.

6. Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7. Cydgenwch i'r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i'n Duw â'r delyn;

8. Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i'r ddaear, gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9. Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.

10. Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.

11. Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a'i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.

12. Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw.

13. Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.

14. Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.

15. Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a'i air a red yn dra buan.

16. Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.

17. Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?

18. Efe a enfyn ei air, ac a'u tawdd hwynt: â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19. Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.

20. Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.