Y Salmau 56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

I'r Pencerdd ar Jonath‐Elem‐Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.

1. Trugarha wrthyf, O Dduw: canys dyn a'm llyncai: beunydd, gan ymladd, y'm gorthryma.

2. Beunydd y'm llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i'm herbyn, O Dduw Goruchaf.

3. Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.

4. Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5. Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i'm herbyn er drwg.

6. Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.

7. A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.

8. Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9. Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.

10. Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.

11. Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12. Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13. Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?