Y Salmau 133 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

1. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!

2. Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef:

3. Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.