Y Salmau 64 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

I'r Pencerdd, Salm Dafydd.

1. Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.

2. Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:

3. Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:

4. I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5. Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?

6. Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.

7. Eithr Duw a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.

8. Felly hwy a wnânt i'w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.

9. A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef.

10. Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.