Y Salmau 34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a'i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.

1. Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.

3. Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef.

4. Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a'm gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.

5. Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a'u hwynebau ni chywilyddiwyd.

6. Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.

7. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'u gwared hwynt.

8. Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9. Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef.

10. Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.

11. Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd.

12. Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?

13. Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.

14. Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.

15. Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a'i glustiau sydd yn agored i'w llefain hwynt.

16. Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.

17. Y rhai cyfiawn a lefant; a'r Arglwydd a glyw, ac a'u gwared o'u holl drallodau.

18. Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.

19. Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.

20. Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.

21. Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.

22. Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.