Y Salmau 138 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd.

1. Clodforaf di â'm holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.

2. Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.

3. Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.

4. Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau.

5. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.

6. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.

7. Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a'm bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubai.

8. Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.