Y Salmau 117 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd: clodforwch ef, yr holl bobloedd.

2. Oherwydd ei drugaredd ef tuag atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.