Y Salmau 89 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Maschil Ethan yr Esrahiad.

1. Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â'm genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2. Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.

3. Gwneuthum amod â'm hetholedig, tyngais i'm gwas Dafydd.

4. Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.

5. A'r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a'th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.

6. Canys pwy yn y nef a gystedlir â'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn?

7. Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i'w arswydo yn ei holl amgylchoedd.

8. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a'th wirionedd o'th amgylch?

9. Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a'u gostegi.

10. Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.

11. Y nefoedd ydynt eiddot ti, a'r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a'i gyflawnder.

12. Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.

13. Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.

14. Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15. Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy.

16. Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.

17. Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.

18. Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.

19. Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o'r bobl.

20. Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â'm holew sanctaidd:

21. Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22. Ni orthryma y gelyn ef; a'r mab anwir nis cystuddia ef.

23. Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen; a'i gaseion a drawaf.

24. Fy ngwirionedd hefyd a'm trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.

25. A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.

26. Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.

27. Minnau a'i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.

28. Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a'm cyfamod fydd sicr iddo.

29. Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a'i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.

30. Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;

31. Os fy neddfau a halogant, a'm gorchmynion ni chadwant:

32. Yna mi a ymwelaf â'u camwedd â gwialen, ac â'u hanwiredd â ffrewyllau.

33. Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o'm gwirionedd.

34. Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.

35. Tyngais unwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd.

36. Bydd ei had ef yn dragywydd, a'i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.

37. Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.

38. Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.

39. Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40. Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41. Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.

42. Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.

43. Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.

44. Peraist i'w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.

45. Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.

46. Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?

47. Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48. Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.

49. Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

50. Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

51. A'r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â'r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.

52. Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.