Y Salmau 141 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd.

1. Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.

2. Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol.

3. Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

4. Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.

5. Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.

6. Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt.

7. Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.

8. Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.

9. Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.

10. Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.