Y Salmau 37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd.

1. Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.

2. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.

3. Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.

4. Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.

5. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.

6. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd.

7. Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

8. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.

9. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir.

10. Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.

11. Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.

12. Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.

13. Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14. Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a'r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.

15. Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'u bwâu a ddryllir.

16. Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.

17. Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.

18. Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a'u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19. Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20. Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.

21. Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22. Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a'r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.

23. Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24. Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25. Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara.

26. Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a'i had a fendithir.

27. Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.

28. Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.

29. Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.

30. Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.

31. Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a'i gamre ni lithrant.

32. Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33. Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.

34. Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a'i gweli.

35. Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.

36. Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.

37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

38. Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

39. A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40. A'r Arglwydd a'u cymorth hwynt, ac a'u gwared: efe a'u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a'u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.