Y Salmau 67 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

I'r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.

1. Duw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:

2. Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a'th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.

3. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.

4. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.

5. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.

6. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a'n bendithia.

7. Duw a'n bendithia; a holl derfynau y ddaear a'i hofnant ef.