Y Salmau 142 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.

1. Gwaeddais â'm llef ar yr Arglwydd; â'm llef yr ymbiliais â'r Arglwydd.

2. Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.

3. Pan ballodd fy ysbryd o'm mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.

4. Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a'm hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5. Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a'm rhan yn nhir y rhai byw.

6. Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.

7. Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a'm cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.