Y Salmau 76 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

I'r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.

1. Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.

2. Ei babell hefyd sydd yn Salem, a'i drigfa yn Seion.

3. Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a'r frwydr. Sela.

4. Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.

5. Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a'r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

6. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gysgu.

7. Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o'th flaen pan enynno dy ddicter?

8. O'r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,

9. Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.

10. Diau cynddaredd dyn a'th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.

11. Addunedwch, a thelwch i'r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o'i amgylch ef, dygant anrheg i'r ofnadwy.

12. Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.