Y Salmau 110 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd.

1. Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i'th draed.

2. Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion.

3. Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.

4. Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.

5. Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6. Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.

7. Efe a yf o'r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.