Y Salmau 75 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

I'r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.

1. Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.

3. Ymddatododd y ddaear, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.

4. Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:

5. Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

6. Canys nid o'r dwyrain, nac o'r gorllewin, nac o'r deau, y daw goruchafiaeth.

7. Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a'r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.

9. Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob.

10. Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.