1. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2. Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
3. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
4. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
5. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
6. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
7. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
8. Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
9. Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
10. Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
11. Ac a ddug Israel o'u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
12. A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
13. Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
14. Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
15. Ac a ysgytiodd Pharo a'i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
16. Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
17. Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
18. Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
19. Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
20. Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
21. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
22. Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
23. Yr hwn yn ein hiselradd a'n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
24. Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
25. Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
26. Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.