Y Salmau 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Salm Dafydd.

1. Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf.

2. Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a'm calon.

3. Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4. Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda'r rhai trofaus nid af.

5. Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda'r annuwiolion nid eisteddaf.

6. Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a'th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf:

7. I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

8. Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.

9. Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda dynion gwaedlyd:

10. Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a'u deheulaw yn llawn gwobrau.

11. Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.

12. Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y'th fendithiaf, O Arglwydd.