Y Salmau 131 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

1. O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.

2. Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.

3. Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.