Salmau 42 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 42

Pam f’anghofio fi?

1. Fel y blysia ewigAm y dyfroedd bywY dyhea f’enaidInnau am fy Nuw.

2. Mae ar f’enaid sychedAm fy Arglwydd byw;Pa bryd y caf brofiPresenoldeb Duw?

3. Ddydd a nos bu ’nagrau’nFwyd i mi a’m clyw’nLlawn o holi’r gelyn:“Ple y mae dy Dduw?”

4. Gofid ydyw cofioMynd mewn torf lawn hwylI dŷ Dduw dan ganu:Tyrfa’n cadw gŵyl.

5. Na thristâ, fy enaid,Ac na thyrfa’n awr!Wrth Dduw y disgwyliaf,Fy ngwaredydd mawr.

6. Na thristâ, fy enaid.Cofiaf Dduw o dirHermon a Bryn MisarA’r Iorddonen ir.

7. Dyfnder eilw ar ddyfnderDy raeadrau di.Mae dy fôr a’i donnauWedi’m llethu i.

8. Liw dydd ei ffyddlondebA orchymyn Duw.Liw nos canaf weddi,Duw fy mywyd yw.

9. Duw, fy nghraig, a holaf,“Pam f’anghofio fi?Pam fy rhoi dan orthrwm?Pam tristáu fy nghri?”

10. Dirmyg fy ngelynion,Cledd yn f’esgyrn yw.Di-baid y gofynnant,“Ple y mae dy Dduw?”

11. Na thristâ, fy enaid,Ac na thyrfa’n awr!Molaf fy Nuw eto,Fy ngwaredydd mawr.