Salmau 134 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 134

Bendithio a derbyn bendith

1-3. O dewch, a bendithiwch yr Arglwydd,Chwi weision yr Arglwydd bob un,Sy’n sefyll yn nheml yr ArglwyddYn gwylio liw nos ar ddi-hun.O codwch eich dwylo yn y cysegr;Bendithiwch yr Arglwydd o hyd.Bendithied ef chwithau o Seion –Creawdwr y nefoedd a’r byd.