1-2. O rhowch wrogaeth, yr holl fyd,Ynghyd i’r Arglwydd glân.Ei foliant rhowch yn llon ar daen,A dewch o’i flaen â chân.
3. Gwybyddwch mai yr Arglwydd ywY Duw a’n gwnaeth bob un,A ninnau’n ddefaid ei borfeydd,Ei bobl, ei eiddo’i hun.
4. Â diolch dewch i mewn i’w byrth,A chydag ebyrth mawl.Diolchwch, a bendithiwch Dduw,Cans dyna yw ei hawl.
5. Oherwydd da yw’r Arglwydd byth;Di-lyth ei gariad ef,A phery ei ffyddlondeb hydY pery’r byd a’r nef.