1-2. Yr Arglwydd yw fy mugail i,Ac ni bydd eisiau arnaf.Mewn porfa fras gorffwyso a gaf;Ger dyfroedd braf gorweddaf.
3. Mae yn f’adfywio yn ddi-frysA’m tywys yn garuaidd.Hyd ffyrdd cyfiawnder mae’n fy nwyn,Er mwyn ei enw sanctaidd.
4. Mewn dyffryn tywyll du ni chafNac anaf byth na dolur;A thi o’m blaen, fe rydd dy ffonA’th wialen dirion gysur.
5. Arlwyi fwrdd o’m blaen, a’m lluGelynion i yn gwylio,Eneinio ’mhen ag olew glân.Mae ’nghwpan yn gorlifo.
6. Daioni a thrugaredd fyddO’m hôl bob dydd o’m bywyd;Ar hyd fy oes mi fyddaf bywYn nhŷ fy Nuw mewn gwynfyd.