Salmau 12 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 12

Gweddi am achubiaeth

1-4. O Arglwydd, arbed bellach;Nid oes neb teyrngar mwy.Mae gweniaith ffals a chelwyddAr eu tafodau hwy.Dinistria di’r ymffrostgar,Sy’n dweud mewn brol a bri,“Ein nerth sydd yn ein tafod.Pwy a’n disgybla ni?”

5-8. “Oherwydd cri’r anghenus,Achubaf ef o’i gur,”Yw geiriau Duw, a’r rheiniFel aur neu arian pur.O gwared ni, O Arglwydd,Rhag y genhedlaeth hon,Am fod drygioni a llygreddYn prowla’r ddaear gron.