Salmau 133 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 133

Bendithion byw’n heddychlon

1-2. Mor dda ac mor ddymunol ywI bobl fyw’n heddychlon.Mae fel y dafnau ennaint pêrAr farf a choler Aaron.

3. Mae fel pan ddisgyn gwlith y wawrI lawr dros fynydd Seion,Lle rhoddodd Duw ei fendith ddrud,Sef bywyd byth i’w weision.