Salmau 124 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 124

Diolch am waredigaeth

1-2. Dyweded Israel: Oni baiI’r Arglwydd fod o’n tuPan gododd ein gelynion ollI’n herbyn yn un llu,

3-5. Fe fyddent wedi’n llyncu’n fyw,A’n llosgi yn eu llid.Cuddiasai’r tonnau’n pennau, a’nHysgubo i ffwrdd i gyd.

6-7a. Ond bendigedig fyddo Duw.Ni roddodd ni yn braeI’w dannedd. Cawsom fynd yn rhydd,A dianc rhag pob gwae.

7b-8. Dianc yn rhydd, fel adar bachO faglau’r heliwr cudd.Ein gobaith sydd yn enw Duw,Creawdwr popeth sydd.