Salmau 115 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 115

Rhagoriaeth ein Duw

1-3. Dyro di ogoniant,Arglwydd, nid i ni,Ond i’th enw, canysCariad ydwyt ti.Pam yr hola’r gwledydd,“Ple y mae eu Duw?”Mae’n Duw ni’n y nefoedd;Crëwr popeth yw.

9. Israel, ymddiriedaYn yr Arglwydd Dduw,Cans dy gymorth parodDi, a’th darian yw.

4-6a. Duwiau y cenhedloedd,Delwau ŷnt bob un,Delwau aur ac arianO waith dwylo dyn.Y mae ganddynt enau,Ond y maent yn fud;Dall eu llygaid; byddarYw eu clustiau i gyd.

10. O dŷ Aaron, credwchYn yr Arglwydd Dduw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.

6b-8. Ffroenau nad aroglant,Dwylo na wnânt waithSydd i’r delwau mudion:Traed na cherddant chwaith.Y mae eu gwneuthurwyrYr un mor ddi-werth,A phawb sy’n ymddiriedYn eu grym a’u nerth.

11. Chwi sy’n ofni’r Arglwydd,Rhowch eich cred yn Nuw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.

12-14. Y mae Duw’n ein cofio,A’n bendithio a wna.Fe fendithia IsraelA thy Aaron dda,A phawb sy’n ei ofni,Boed yn fach neu’n fawr.Amlhaed Duw chwiOll, a’ch plant yn awr.

15. Boed i chwi gael bendithGan yr Arglwydd Dduw;Crëwr mawr y nefoeddA’r holl ddaear yw.

16-18. Am y nefoedd uchod,Eiddo’r Arglwydd yw;Ond fe roes y ddaearI blant dynolryw.Ni all neb o’r meirwFoli Duw o’u tref,Ond nyni’n oes oesoeddA’i moliannwn ef.Molwch bawb yr Arglwydd,A bendithiwch Dduw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.