Salmau 28 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

SALM 28

Bendigedig fyddo’r Arglwydd

1-2. Arglwydd, arnat ti y gwaeddaf;Na thro fyddar glust i’m cri,Rhag im fod fel rhai sy’n feirwYn y bedd, ond gwrando fi.Gwrando lef fy ngweddi am gymorthPan wy’n codi ’nwylo fryTua’th gysegr sancteiddiolaf,Lle preswyli yn dy dŷ.

3-5. Paid â’m cipio ymaith gydaPhobl ddrwg y ddaear hon,Sy’n wên deg yng ngŵydd cymdogion,Ond sy â chynnen dan eu bron.Rho di iddynt hwy eu haeddiantAm ddrygioni eu holl waith.Difa hwy am d’anwybyddu,A phaid byth â’u hadfer chwaith.

6-9. Bendigedig fyddo’r Arglwydd.Clywodd fi; fy nharian yw.Ymddiriedaf yn ei gymorth.Rhoddaf fawl ar gân i’m Duw.Mae’n achubiaeth i’w eneiniog,Ac yn nerth i’w bobl byth mwy.Gwared a bendithia d’eiddo,Arglwydd, a’u bugeilio hwy.