Ecclesiasticus 49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Joseia

1. Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarthwedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd;y mae ei felyster fel mêl i bob genau,neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.

2. Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl,gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.

3. Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd,ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd.

Jeremeia

4. Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia,pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin;cefnasant ar gyfraith y Goruchaf.Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,

5. oherwydd ildiasant eu gallu i erailla'u gogoniant i genedl estron.

6. Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr,a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,

7. fel y proffwydodd Jeremeia, y gŵr hwnnw a gamdriniwyd,ac yntau wedi ei gysegru'n broffwyd yn y groth,i ddiwreiddio, i ddrygu ac i ddinistrio,a hefyd i adeiladu ac i blannu.

Eseciel

8. Gwelodd Eseciel yntau weledigaeth o'r gogonianta ddatguddiwyd iddo uwchlaw cerbyd y cerwbiaid.

9. Oherwydd cofiodd Duw am ei elynion â chawod ei ddigofaint,a'r rhai union eu llwybrau â'i fendithion.

Y Deuddeg Proffwyd

10. Bydded i esgyrn y deuddeg proffwyd, felly,egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd,oherwydd rhoesant gysur i Jacoba gwaredu'r bobl â'u gobaith ffyddiog.

Sorobabel a Josua

11. Sut y mae datgan mawredd Sorobabel?Yr oedd ef fel sêl-fodrwy ar law dde'r Arglwydd.

12. A'r un modd Josua fab Josedec.Dyma'r ddau yn eu dydd a adeiladodd y tŷa chodi i'r Arglwydd deml sanctaidd,wedi ei darparu i ogoniant tragwyddol.

Nehemeia

13. Rhagorol hefyd yw coffadwriaeth Nehemeia,a gododd i ni y muriau a syrthiasai,ac atgyweirio'r pyrth a'r barrauac ailadeiladu ein tai.

Y Patriarchiaid

14. Ni chrewyd neb ar y ddaear i'w gymharu ag Enoch,oherwydd cymerwyd ef i fyny oddi ar y ddaear.

15. Ni anwyd chwaith neb tebyg i Joseff,llywodraethwr ei frodyr a chadernid ei bobl;y mae ei esgyrn ef wedi eu cadw'n ddiogel.

16. Cafodd Sem a Seth fri ymhlith y bobl,ond goruwch pob peth byw yn y greadigaeth y mae Adda.