Ecclesiasticus 34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Breuddwydion

1. Gobeithion ofer a thwyllodrus sydd gan y diddeall,a breuddwydion yw adenydd ffŵl.

2. Fel un a gais ddal ei gysgod neu ymlid y gwynty mae'r sawl a rydd goel ar freuddwydion.

3. Nid yw'r hyn a welir mewn breuddwyd yn ddim namyn llun,cyffelybrwydd o wyneb mewn drych.

4. Beth a lanheir ag aflendid?A beth a wireddir â chelwydd?

5. Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion—dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.

6. Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf,paid â chymryd sylw ohonynt.

7. Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn,a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.

8. Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.

Teithio

9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.

10. Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.

11. Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau,ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.

12. Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.

Ofni'r Arglwydd

13. Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.

14. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnusna llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.

15. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd.Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?

16. Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai sy'n ei garu,yn amddiffynfa gadarn ac yn gynhaliaeth gref,yn gysgod rhag gwres tanbaid a rhag haul canol dydd,yn ddiogelwch rhag baglu ac yn gymorth rhag cwympo.

17. Y mae'n codi eu hysbryd ac yn goleuo eu llygaid,gan roi iddynt iechyd a bywyd a bendith.

Offrymau

18. Halogedig yw offrwm a wneir o fudrelw,ac anghymeradwy yw rhoddion digyfraith.

19. Nid yw'r Goruchaf yn ymhyfrydu yn offrymau'r annuwiol,ac nid yw'n puro'u pechodau ar bwys amlder eu haberthau.

20. Y mae dwyn eiddo'r tlodion, a'i gynnig yn offrwm,fel aberthu mab yng ngŵydd ei dad.

21. Y mae bara'n fywyd i'r tlodion yn eu hangen,a llofrudd yw'r sawl a'i cymer oddi wrthynt.

22. Lladd ei gymydog y mae'r sawl sy'n dwyn ei fywoliaeth,a thywallt gwaed y mae'r sawl sy'n atal ei gyflog i weithiwr.

23. Os bydd un yn adeiladu a'r llall yn tynnu i lawr,pa elw fydd iddynt heblaw poen eu llafur?

24. Os bydd un yn gweddïo a'r llall yn melltithio,ar lais p'run y gwrendy'r Meistr?

25. Os ymolcha rhywun ar ôl cyffwrdd celain, a'i chyffwrdd eilwaith,pa faint gwell fydd o'i ymolchi?

26. Felly hefyd os ymprydia rhywun am ei bechodau,a mynd eilwaith a gwneud yr un pethau,pwy a wrendy ar ei weddi,a pha faint gwell fydd o'i ymostyngiad?