3-5. Fe fyddent wedi’n llyncu’n fyw,A’n llosgi yn eu llid.Cuddiasai’r tonnau’n pennau, a’nHysgubo i ffwrdd i gyd.
6-7a. Ond bendigedig fyddo Duw.Ni roddodd ni yn braeI’w dannedd. Cawsom fynd yn rhydd,A dianc rhag pob gwae.
7b-8. Dianc yn rhydd, fel adar bachO faglau’r heliwr cudd.Ein gobaith sydd yn enw Duw,Creawdwr popeth sydd.